Sut y gallwn eich helpu?
Bydd gennych syniadau am wasanaethau gofal a chymorth – gwasanaethau sy'n dda a gwasanaethau y mae angen eu gwella. Drwy gydweithredu, gallwn weithio gyda'n gilydd i greu gwasanaethau gwell.
Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth i gael fwy o reolaeth dros y ffordd y cânt eu rhedeg a’r hyn y maent yn ei gynnig. Mae am i fwy o gwmnïau cydweithredol gyflwyno’r gwasanaethau hyn.
Caiff Cydweithredu i Ofalu ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i ddarparu gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. Rydym yn cynnig help i’r bobl sydd am sefydlu neu redeg gwasanaethau gofal a chymorth mewn ffordd gydweithredol. Rydym o’r farn bod gwasanaethau’n well pan fydd y bobl y mae angen gofal a chymorth arnynt a’r bobl sy’n darparu cymorth gofal, yn gweithio’n agos gyda’i gilydd.
Sut rydym yn gweithio gyda chi a’ch cymuned
Os oes gennych syniad o ran y ffordd y gallai gwasanaethau gofal a chymorth gael eu rhedeg, gallwn eich helpu chi a’ch cymuned i ddatblygu’r syniad yn wasanaeth llwyddiannus. Rydym hefyd yn gweithio gyda sefydliadau sydd eisoes yn darparu gwasanaethau, er mwyn cynnwys y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hynny yn y broses o’u rhedeg.
Byddwn yn eich helpu i wneud y canlynol…
- Dod â phobl at ei gilydd i drafod syniadau a meddwl am ffyrdd o weithio’n gydweithredol
- Ystyried sut i reoli’r gwasanaeth fel bod pawb yn lleisio’u barn am y ffordd y caiff ei redeg
- Datblygu’r syniad a phrofi a fyddai’n gweithio yn ymarferol
- Darparu hyfforddiant ar bob agwedd ar redeg gwasanaeth cydweithredol
- Rhoi cymorth i chi ar yr holl agweddau cyfreithiol ar sefydlu’r gwasanaeth
- Ein gwaith gyda sefydliadau
- Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd, cymdeithasau tai ac elusennau i’w helpu i gynnwys y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau, er mwyn iddynt leisio eu barn am y ffordd y cânt eu rhedeg. Rydym hefyd yn gweithio gyda sefydliadau i nodi cwmnïau cydweithredol sy’n gallu darparu gwasanaethau fel y nodir yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
Sut y byddwn yn gweithio gyda’ch sefydliad…
- Helpu i ailgynllunio gwasanaethau presennol i fod yn fwy cydweithredol fel bod gan bobl lais cryf a rheolaeth dros eu gwasanaethau
- Darparu arweiniad ar gynllunio busnes, strwythurau cyfreithiol a sut i lywodraethu cwmnïau cydweithredol
- Helpu partneriaid sydd am gomisiynu gwasanaethau a chwmnïau cydweithredol
- Ein cwrs ar-lein
- Cymerwch ein cwrs er mwyn dysgu mwy am gwmnïau gofal a chymorth cydweithredol. Os ydych yn rhedeg gwasanaeth rydych am iddo fod yn fwy cydweithredol, neu os oes gennych syniad am wasanaeth newydd, bydd ein cwrs ar-lein yn eich helpu
Ein cwrs ar-lein
Cymerwch ein cwrs, ‘Sut i Ddechrau Cwmni Cydweithredol’, er mwyn dysgu mwy am gwmnïau gofal a chymorth cydweithredol. Os ydych yn rhedeg gwasanaeth rydych am iddo fod yn fwy cydweithredol, neu os oes gennych syniad am wasanaeth newydd, bydd ein cwrs ar-lein yn eich helpu.
Astudiaethau Achos
Darllenwch am gwmnïau cydweithredol llwyddiannus rydym wedi’u helpu a’u harwain ar hyd y ffordd.