Dyma sut y gallwn eich helpu...
Gallwn eich helpu i rannu eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch syniadau er mwyn gwella'r ffordd y caiff gwasanaethau eu diffinio, eu cynllunio a'u darparu yn uniongyrchol – ac rydym yn gwneud hyn drwy gydweithredu.

Archwiliwch fyd cydweithredu
Bydd ein cwrs, 'Sut i Ddechrau Cwmni Cydweithredol', yn rhoi gwybodaeth i chi am gwmnïau cydweithredol, cyfreithiau pwysig sy'n galluogi iddynt fodoli, a sut i ddechrau eich cwmni gofal a chymorth cydweithredol eich hun.

Dysgwch drwy animeiddiadau a chwisiau
Caiff y cwrs rhyngweithiol ei rannu'n gamau, yn llawn animeiddiadau a chwisiau. Chi sy'n penderfynu beth i'w ddysgu a phryd – rydym wedi sicrhau ei fod yn llawn hwyl ac yn hawdd ei ddilyn.

Enillwch dystysgrifau wrth i chi ddysgu
Byddwch yn ennill tystysgrif pan fyddwch yn cwblhau pob cam yn llwyddiannus.

Mae cymorth ac arweiniad ychwanegol ar gael gan dîm Cydweithredu i Ofalu
Unwaith y byddwch wedi gorffen, byddwn yn cynnig rhagor o help ac arweiniad i chi am ddim (ie, am ddim!) i sefydlu cwmni gofal a chymorth cydweithredol.